2012 Rhif 1675 (Cy. 216)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2005 drwy hepgor y diffiniadau o “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) ac “athro neu athrawes gyflenwi tymor byr” (“short term supply teacher”) nad oes eu hangen bellach ar ôl y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 4 yn rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” ym mhob man lle y mae'n digwydd yn Rheoliadau 2005.

Mae rheoliad 5 yn diwygio'r ddarpariaeth ynglŷn â hyd cyfnod ymsefydlu y mae rhaid ei wasanaethu. Mae'r diwygiad yn darparu bod rhaid i athrawon sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu drwy gwblhau cyfnodau o gyflogaeth o lai nag un tymor ysgol neu ddau hanner tymor olynol wasanaethu 380 o sesiynau ysgol (sy'n cyfateb i dri thymor ysgol). 

Mae rheoliad 6 yn dileu'r gofyniad i gyfnodau o gyflogaeth fod o leiaf un tymor neu ddau hanner tymor olynol. Dim ond i gyfnodau o gyflogaeth ar ôl 1 Medi 2012 y mae hyn yn gymwys.

Mae rheoliad 7 yn diwygio'r gofynion goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Mae'r diwygiad yn gwneud pennaeth ysgol lle y mae cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi personau sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu o ddydd i ddydd, ac mae'n gwneud y corff priodol yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi cyffredinol y personau hynny. Rhaid i'r goruchwylio a'r hyfforddi y mae'r corff priodol yn gyfrifol amdanynt gynnwys goruchwylio a hyfforddi gan berson sydd â gwybodaeth am y safonau sy'n ofynnol o dan reoliad 13 o Reoliadau 2005.

Mae rheoliad 8 yn diwygio'r weithdrefn i'w dilyn gan y corff priodol ar ôl i gyfnod ymsefydlu gael ei gwblhau drwy ddileu'r gofyniad i bennaeth ysgol wneud argymhelliad o ran p'un a yw'r safonau ymsefydlu wedi eu bodloni.

Mae rheoliadau 9 a 10 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.


2012 Rhif 1675 (Cy. 216)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed                               26 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       28 Mehefin 2012

Yn dod i rym                              1 Medi 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Medi 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

 

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005

2. Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 3 (dehongli)

3.(1)(1) Yn rheoliad 3(1)—

(a)   hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”);

(b)  hepgorer y diffiniad o “athro neu athrawes gyflenwi tymor byr” (“short term supply teacher”).

(2) Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle  “y mae'r corff priodol wedi penderfynu arno yn unol â rheoliad 8(2)” rhodder “a benderfynir yn unol â rheoliad 8(4)”.

Rhoi “Gweinidogion Cymru” yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol”

4. Ym mhob man lle y mae'n digwydd yn rheoliadau 3, 5, 7, 13, 16 ac 20, yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Disodli rheoliad 8 (hyd cyfnod ymsefydlu)

5. Yn lle rheoliad 8 rhodder—

Hyd cyfnod ymsefydlu

8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), tri thymor ysgol fydd hyd cyfnod ymsefydlu (“y rheol tri thymor”).

(2) At ddibenion cyfrifo’r cyfnod ymsefydlu caniateir i dymor ysgol fod naill ai’n un tymor ysgol neu’n ddau hanner tymor ysgol olynol (gan anwybyddu gwyliau). 

(3) Nid yw'r rheol tri thymor yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol—

(a)   pan fo cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu mewn sefydliad lle nad yw'r flwyddyn ysgol yn cynnwys tri thymor ysgol;

(b)  pan fo cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu gan berson mewn gwasanaeth rhan-amser;

(c)   pan fo cyfnod ymsefydlu'n cael ei wasanaethu mewn dau neu fwy o sefydliadau ar yr un pryd;

(ch) pan fo unrhyw gyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu yn cynnwys cyfnod o lai nag un tymor ysgol;

(d)  pan nad yw'n briodol, ym marn y corff priodol, ei fod yn gymwys.

(4) Hyd cyfnod ymsefydlu pan nad yw'r rheol tri thymor yn gymwys yw—

(a)   380 o sesiynau ysgol pan fo paragraff (3)(ch) yn gymwys; a

(b)  ym mhob achos arall, unrhyw hyd a benderfynir gan y corff priodol ar yr amod nad yw’r cyfnod hwn yn llai na’r hyn sy'n gyfartal â 380 o sesiynau ysgol neu 3 thymor ysgol.”

 

Disodli rheoliad 9 (cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu)

6. Yn lle rheoliad 9 rhodder—

Cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu

9.—(1) Yr unig gyfnodau o gyflogaeth fel athro neu athrawes gymwysedig ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2012 sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu yw:

(a)   cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddo nad yw'n llai nag un tymor ysgol o ran ei hyd;

(b)  cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddynt o ddau hanner tymor ysgol olynol (gan anwybyddu gwyliau); 

(c)   yn achos athro neu athrawes unigol, cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddo o unrhyw hyd arall sy'n briodol ym marn y corff priodol; neu

(ch) cyfnod o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg AB yn Lloegr pe byddai'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

(2) Yr unig gyfnodau o gyflogaeth fel athro neu athrawes gymwysedig ar neu ar ôl 1 Medi 2012 sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu yw:

(a)   cyfnod o gyflogaeth mewn sefydliad yng Nghymru y mae rheoliad 7(1) yn gymwys iddo nad yw'n llai nag un sesiwn ysgol o ran ei hyd; 

(b)  cyfnod o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg AB yn Lloegr pe byddai'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.”

Disodli rheoliad 12 (goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu)

7. Yn lle rheoliad 12 rhodder—

Goruchwylio a hyfforddi yn ystod y cyfnod ymsefydlu

12.—(1) Mae pennaeth sefydliad yng Nghymru lle y mae person yn gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi'r person hwnnw o ddydd i ddydd.

(2) Mae corff priodol mewn perthynas â sefydliad yn gyfrifol am oruchwylio a hyfforddi cyffredinol person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu yn y sefydliad hwnnw.

(3) Rhaid i'r goruchwylio a'r hyfforddi o dan baragraff (2) gynnwys goruchwylio a hyfforddi gan berson sydd â gwybodaeth am y safonau a grybwyllir yn rheoliad 13.”

Disodli rheoliad 14 (cwblhau cyfnod ymsefydlu)

8. Yn lle rheoliad 14 rhodder—

Cwblhau cyfnod ymsefydlu

14.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu—

(a)   os yw'r person hwnnw'n cael ei gyflogi mewn sefydliad yng Nghymru pan gwblheir y cyfnod ymsefydlu, neu

(b)  os yw sefydliad y pennaeth arweiniol yng Nghymru pan gwblheir cyfnod ymsefydlu sy'n cael ei wasanaethu mewn dau neu fwy o sefydliadau ar yr un pryd.

(2) O fewn y cyfnod o ugain niwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y cwblhawyd y cyfnod ymsefydlu, rhaid i'r corff priodol benderfynu—

(a)   a yw'r person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu wedi bodloni'r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13 ac felly wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol;

(b)  a ddylai cyfnod ymsefydlu’r person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu gael ei estyn yn unol ag unrhyw gyfnod y bydd y corff priodol yn penderfynu arno; neu

(c)   a yw'r person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.

(3) Rhaid i'r corff priodol roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig sydd wedi dod i law oddi wrth y person o dan sylw cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (2).

 (4) O fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaeth benderfyniad o dan baragraff (2), rhaid i'r corff priodol—

(a)   rhoi hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad—

                       (i)  i'r person o dan sylw,

                      (ii)  yn achos ysgol berthnasol neu goleg AB, i gorff llywodraethu'r ysgol neu'r coleg lle y mae'r person yn cael ei gyflogi,

                     (iii)  yn achos ysgol annibynnol, i'r perchennog,

                     (iv)  i bennaeth y sefydliad lle'r oedd y person a oedd yn gwasanaethu'r cyfnod ymsefydlu yn cael ei gyflogi ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu,

                      (v)  os nad yw'r person hwnnw yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, i'w gyflogwr (os nad oes hawl gan y cyflogwr i gael hysbysiad o dan baragraff (ii) neu baragraff (iii) uchod), a

                     (vi)  i'r Cyngor; a

(b)  os gwnaeth y corff priodol benderfyniad sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) neu (c), rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person o dan sylw am—

                       (i)  ei hawl i apelio at y Cyngor yn erbyn y penderfyniad,

                      (ii)  cyfeiriad y Cyngor, a

                     (iii)  y cyfnod amser ar gyfer apelio.

(5) Caniateir rhoi hysbysiad o dan baragraffau (2) a (3) i berson drwy ffacsimili, post electronig neu ddulliau cyffelyb eraill sy'n gallu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun y cyfathrebiad, a bernir bod hysbysiad sy'n cael ei anfon drwy ddull o'r fath wedi ei roi pan fydd wedi dod i law ar ffurf ddarllenadwy.”

Diwygio rheoliad 18 (swyddogaethau eraill y corff priodol)

9. Yn rheoliad 18, hepgorer paragraffau (2) a (3).

Diwygio Atodlen 1

10. Yn Atodlen 1—

(a)     yn lle paragraff 2 rhodder—

2. Person—

(a)   sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu (gan gynnwys cyfnod ymsefydlu sydd wedi ei estyn cyn iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 10 neu ar ôl iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 14 neu 17); neu

(b)  sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu o'r fath ac sy'n cael ei gyflogi i weithio fel athro neu athrawes tra arhosir am benderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 14 o’r Rheoliadau hyn neu reoliad 16 o Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.”

(b)     hepgorer paragraffau 4, 5 a 6.

(c)     yn lle paragraff 22(ch) rhodder—

“(ch)  naill ai—

                       (i)  wedi cwblhau cyfnod o brofiad proffesiynol yn llwyddiannus ar ôl hyfforddiant proffesiynol (sy'n debyg i gyfnod ymsefydlu yng Nghymru) mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig, a gydnabyddir felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno; neu 

                      (ii)  wedi ei asesu fel un sy’n bodloni’r safonau a grybwyllir yn rheoliad 13 gan sefydliad a achredwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012 neu gan berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.”

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

26 Mehefin 2012

 



([1])           1998 p.30; diwygiwyd adran 19 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, adran 139 ac Atodlen 11; Deddf Addysg 2002, Atodlen 21, paragraff 85; Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158) a chan Ddeddf Addysg 2011, Atodlen 2, paragraffau 1 a 14.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol fel y maent yn ymwneud â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac fe'u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

([3])           O.S. 2005/1818 (Cy.146) a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/724 (Cy.96).